Sgiliau ar gyfer Twf - y Strategaeth Sgiliau Genedlaethol
20/11/2009
Ar 11 Tachwedd cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau, yr Arglwydd Mandelson, lansio Skills for growth - The National Skills Strategy, gweledigaeth y llywdraeth i sicrhau bod gan bobl a busnesau'r sgiliau mae arnynt eu hangen i helpu i yrru twf economaidd Lloegr.
Mae David Hunter, Prif Weithredwr Dysgu Gydol Oes yn y DU, yn ymateb:
"Mae'r adolygiad o'r strategaeth sgiliau yn un amserol. Rydym yn cefnogi symleiddio'r tirlun sgiliau, ac yn croesawu'r ymrwymiad i gryfhau rôl Cynghorau Sgiliau Sector sy'n cael eu harwain gan gyflogwyr. Rydym yn argymell yn gryf bod hyn yn cael ei gyflawni trwy gyd-drefnu ar lefel y DU - rhywbeth sy'n rhan allweddol o'n cylch gwaith ni fel cyngor sgiliau sector.
"Er mwyn cyflawni uchelgeisiau'r llywodraeth o ran sgiliau mae'n hanfodol parhau i gefnogi datblygiad y gweithlu dysgu gydol oes - drwy hyrwyddo mwy o symudedd ar draws y pedair cenedl ac o fewn y sector dysgu gydol oes; drwy gynyddu'r ffocws ar fanteisio ar sgiliau; a thrwy hybu'r agenda sgiliau newydd i ddarparu'r gweithlu ar gyfer yr 21ain ganrif y mae cymaint ei angen ar Brydain.
"Mae gan Dysgu Gydol Oes yn y DU rôl unigryw ymhlith y Cynghorau Sgiliau Sector wrth ddarparu'r 'glud' strategol sy'n cysylltu datblygiad y gweithlu yng ngwahanol rannau ein hisadeiledd gwybodaeth. Edrychwn ymlaen at weithio'n fwyfwy agos gyda'n cyflogwyr wrth i'r tirlun sgiliau newydd ddod i'r amlwg, yn enwedig ym meysydd cyfranogiad cyflogwyr, trosglwyddo gwybodaeth a gwell partneriaethau."
I gael mwy o wybodaeth am Skills for growth - The National Skills Strategy, ewch i wefan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau: www.bis.gov.uk/policies/skills-for-growth.

