Ail-drwyddedu Dysgu Gydol Oes yn y DU
I barhau ar waith, bydd rhaid i bob un o 25 Cyngor Sgiliau Sector y DU ail-geisio am drwydded, a gaiff ei dyfarnu os gall y corff ddangos hyder, cefnogaeth a dylanwad cyflogwyr o fewn eu sector ar draws pob un o bedair cenedl y DU. Caiff yr asesiadau ail-drwyddedu eu cynnal gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fel trydydd parti annibynnol mewn ymgynghoriad â chyflogwyr ac eraill gan ddefnyddio proses y bwriedir iddi fod yn gyson, yn gadarn ac yn effeithiol. Bydd y pwyslais wrth ail-drwyddedu ar y sector a sut mae Cynghorau Sgiliau Sector yn cael eu gweld gan gyflogwyr a rhanddeiliaid - Bydd y Comisiwn yn edrych ar y gwerth mae Cynghorau Sgiliau Sector wedi ei ychwanegu ers eu trwyddedu'n wreiddiol a'r gwahaniaeth a wnaed i'r sector sy'n dod o dan y Cyngor Sgiliau Sector.
Mae'r rhaglen ail-drwyddedu yn canolbwyntio ar berfformiad Cynghorau Sgiliau Sector unigol. I gyflawni statws aildrwyddedig rhaid i bob Cyngor Sgiliau Sector ddangos hyder, cefnogaeth a dylanwad cyflogwyr o fewn eu sector - y sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector - ym mhob un o'r pedair cenedl.

