Dysgu Gydol Oes yn y DU yn rhoi sylwadau ar lansio 'Chwyldro Dysgu'

24/03/2009

Mae Dysgu Gydol Oes yn y DU yn croesawu cyhoeddiad y llywodraeth am gynllun £20m i gefnogi dysgu anffurfiol oedolion. Mae hyn yn arbennig o ystyrlon ar adeg heriau economaidd a phan fydd cefnogi pob math o hyfforddiant ac addysg yn bwysicach nag erioed.

Dywed David Hunter, Prif Weithredwr Dysgu Gydol Oes yn y DU: "Gall pobl a gafodd anawsterau wrth ennill cymwysterau yn y gorffennol fynd yn ôl i ddysgu drwy gyfrwng cyrsiau hamdden, ac mae hynny'n digwydd yn aml. Yn fy rôl flaenorol fel cydlynydd addysg oedolion yn Belfast gwelais yn uniongyrchol ba mor effeithiol mae rhaglenni dysgu yn y gymuned yn gallu bod - yn enwedig wrth annog oedolion i ystyried sgiliau newydd. Felly, er enghraifft, gallai cwrs cychwynnol mewn dawnsio neuadd arwain rhywun i ddilyn cymhwyster technegol wrth i'w hyder ddatblygu."

"O ran addysg oedolion, mae'n gwestian o hunanhyder lawn cymaint â gallu academaidd," ychwanegodd Mr. Hunter.

"Fel y dywed yr Ysgrifennydd Gwladol, John Denham, 'Mae dysgu'n gwella ansawdd bywyd'. Mae dysgu gydol oes ar ei holl ffurfiau yn cynnig cymorth gwirioneddol i unigolion a chyflogwyr wrth iddyn nhw geisio gwrthsefyll yr argyfwng presennol, a gyrru arloesiad newydd wrth baratoi am amserau gwell."