Cymhwyster newydd 'Paratoi i Addysgu' yng Ngogledd Iwerddon

19/11/2008

Bydd Dysgu Gydol Oes yn y DU ar y cyd ag Adran Cyflogaeth a Dysgu Gogledd Iwerddon a Phrifysgol Ulster yn goruchwylio peilot cymhwyster newydd 'Paratoi i Addysgu' ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith ac i staff AB rhan-amser sy'n addysgu mwy na phedair awr yr wythnos. Bydd y peilot yn cynnwys 30 o diwtoriaid a hyfforddwyr a chaiff ei werthuso yng Ngorffennaf 2009 gan Brifysgol Ulster. Rhagwelir ei gyflwyno i'r sector dysgu seiliedig ar waith ym Medi 2009 ac i'r sector AB ym Medi 2010.