Cynhadledd Dysgu Gydol Oes yn y DU 2009 - cymerwch ran
25/02/2009
Mae Dysgu Gydol Oes yn y DU wedi cyhoeddi ei gynhadledd 2009. O dan y teitl The Power of Lifelong Learning: Innovation During a Recession, bydd y digwyddiad yn edrych ar y syniad bod angen i ddysgwyr a gweithwyr ledled y DU, nawr yn fwy nag erioed, ennill sgiliau newydd i aros ar flaen y gad. Bydd y gynhadledd yn digwydd ddydd Mawrth 8 Rhagfyr, felly mynnwch gadw'r dyddiad yn glir!
Fel rhan o'r lansiad, mae Dysgu Gydol Oes yn y DU yn galw am dystiolaeth o'r sawl sydd yn y sector dysgu gydol oes. Rydym yn chwilio am enghreifftiau o arfer gorau wrth gyfrannu at ddysgu gydol oes a diwallu anghenion y gweithlu oddi wrth gyflogwyr, rhanddeiliaid a phartïon eraill â diddordeb ym meysydd:
- Dysgu a datblygu cymunedol, gan gynnwys gwaith ieuenctid
- Addysg bellach
- Addysg uwch
- Llyfrgelloedd, archifdai a gwasanaethau gwybodaeth
- Dysgu seiliedig ar waith
Rhannwch eich barn a'ch profiad a helpwch i lunio'r agenda drwy anfon e-bost at conference2009@lluk.org.
Caiff mwy o fanylion am y gynhadledd eu postio ar wefan Dysgu Gydol Oes yn y DU maes o law.

