Dysgu Gydol Oes yn y DU a The Guardian yn cyhoeddi llyfr "College Voices"

31/03/2009

Mae'n bleser mawr gan Dysgu Gydol Oes yn y DU ddatgan cyhoeddi "College Voices", casgliad o straeon sy'n cynnig gwir ysbrydoliaeth, ar y cyd â The Guardian.

Cafodd y portreadau hynod hyn, a baentiwyd yn wreiddiol gan yr awdur Janet Murray eu cyhoeddi'n wreiddiol yn adran addysg The Guardian, ac maent yn deyrnged glir i rym dysgu gydol oes yn gyffredinol, ac addysg bellach yn benodol, a'u gallu i fod yn gatalydd dros newid cadarnhaol ym mywyd pobl.

Mae'r straeon yn y llyfr yn dangos yr hyn nad yw'n ormod ei ddisgrifio'n rhinwedd trawsnewidiol dysgu gydol oes: o dderbyn y gefnogaeth gywir, mae pobl o bob llwybr mewn bywyd yn darganfod y cryfder i oresgyn trallod ac anawsterau a dod o hyd i'r hyder i fynd ar drywydd addysg unwaith eto.

Mae'n amlwg mai'r ddelwedd o golegau yn y llyfr hwn yw amgylchedd cynhyrchiol a chefnogol lle gall pobl o gefndiroedd a galluoedd gwahanol iawn ddarganfod y cymhelliant a'r anogaeth i gwblhau eu hastudiaethau a mynd yn ôl i'w cymunedau gyda llawer mwy o hyder ac egni.

Dwedodd David Hunter, Prif Weithredwr Dysgu Gydol Oes yn y DU: "Mae pobl yn ei chael yn anodd ennill cymwysterau am nifer o resymau yn ystod eu bywyd. Ond credwn yn gryf os cânt yr arweiniad a'r gefnogaeth gywir, gall unrhyw un lwyddo i fynd yn ôl i ddysgu ac yn llythrennol drawsnewid eu bywyd."

"Mae newid bywyd yn bositif i ddysgwyr hefyd yn ganlyniad ansawdd ac ymrwymiad y gweithlu yn y sector dysgu gydol oes. Cenhadaeth Dysgu Gydol Oes yn y DU yw eu cefnogi yn eu datblygiad parhaus i fod yn effeithiol mewn amgylchedd mwyfwy heriol."

Sylwch fod 'College Voices' ar gael yn Saesneg yn unig. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y cyhoeddiad yn y Gymraeg, neu mewn unrhyw fformat arall, cysylltwch â marketing@lluk.org.