Dysgu drwy gydol Bywyd: Ymchwiliad i Ddyfodol Dysgu Gydol Oes
28/09/2009
"Ddydd Iau 17 Medi 2009 cafodd Learning Through Life, ymchwiliad annibynnol i ddyfodol dysgu gydol oes, ei gyhoeddi.
Rydym wrth ein bodd bod yr adroddiad ardderchog hwn yn cynnig golwg cyfannol o ddyfodol dysgu gydol oes, ac ymateb strategol i'r cyd-destun newidiol presennol. Mae'r adroddiad yn cydnabod yr amrediad cyfoethog o ddysgwyr, o bob oedran, sy'n dysgu ar wahanol lefelau ac mewn gwahanol sefyllfaoedd - o golegau drwodd i ddysgu seiliedig ar waith ac yn y gymuned.
Mae'n pwysleisio hefyd effaith yr ystod fwy amrywiol o ddysgwyr ar fanteision cymdeithasol ac economaidd dysgu gydol oes. Mae hyn yn cynnwys annog bod yn fwy atebol i ddysgwyr, llythrennedd a rhifedd, a datblygu system ar sail credydau, sy'n rhywbeth rydym yn ei wneud ar hyn o bryd.
Bydd y cysylltiad agosach rhwng llyfrgelloedd a cholegau AB, a gynigir yn yr adroddiad, yn cryfhau rolau lleol pwysig. Mae colegau AB yn rhan o gydweithrediad sy'n mynd rhagddo drwy barhau i gyrraedd grwp eang o ddysgwyr a thrwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar draws y sector dysgu gydol oes.
Sylfaen ein dealltwriaeth o sut caiff y sector hwn ei siapio yw pwysigrwydd casglu data am y gweithlu - beth mae'n ei olygu, a sut rydym yn ei ddefnyddio i nodi bylchau a phrinderau sgiliau, yn ogystal ag anghenion dysgwyr. Rydym yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at ddefnydd doethach ar ymchwil.
Byddwn yn parhau i gefnogi'r sector dysgu gydol oes wrth ddatblygu'r sgiliau ar gyfer gweithwyr proffesiynol maes dysgu'r unfed ganrif ar hugain, a byddwn yn trafod y materion o bwys yn ein cynhadledd flynyddol ar 8 Rhagfyr 2008."
David Hunter a Syr David Melville
Prif Weithredwr a Chadeirydd Dysgu Gydol Oes yn y DU

