Hoffwn weithio i LLUK

Lifelong Learning UK (LLUK) yw'r cyngor sgiliau sector annibynnol a arweinir gan gyflogwyr  ar gyfer dysgu a datblygu cymunedol, addysg bellach, addysg uwch, llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth, a dysgu seiliedig ar waith.

Mae LLUK yn cynnig safbwynt strategol ar gyfer cynllunio a datblygu gweithlu ar draws pedair cenedl y DU, mae'n datblygu safonau ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes dysgu gydol oes ac mae'n llais i gyflogwyr y sector hwn ar faterion sgiliau.

Yn ymroddedig i ddatblygiad proffesiynol ei holl staff, mae LLUK yn cynnig ystod eang o fuddion i weithwyr ac mae wedi arloesi cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.

Caiff staff eu cyflogi gan LLUK yn y rolau canlynol:

  • ymgynghorwyr
  • gweithwyr ar gontractau dros dro, tymor penodol neu barhaol. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i LLUK fel gweithiwr neu ymgynghorydd, ewch i'n gwefan swyddi, sy'n cynnwys manylion ar swyddi gwag a sut i wneud cais i LLUK a Standards Verification UK, ein his-gwmni.  Caiff hysbysebion eu rhoi yn y wasg genedlaethol yn rheolaidd hefyd.

Mae'n bosibl y byddai'n ddefnyddiol i chi safio tudalen tendrau LLUK hefyd.