Y Gyfnewidfa Fusnes yn creu trafodaeth ymhlith y diwydiant a darparwyr hyfforddiant

25/11/2009

Gyda lansio fframwaith sgiliau'r llywodraeth, ac adolygiadau eraill diweddar gan Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau a NIACE, bu llawer o drafodaeth yn y sector ac yn y cyfryngau am ansawdd yr addysg sydd ar gael i bobl ifanc ac oedolion. Credwn fod cyd-ymdrech gan y llywodraeth, diwydiant a darparwyr dysgu yn hanfodol i wella dysgu gydol oes yn y DU.

Yn FE News ddydd Iau 19 Tachwedd, ysgrifennodd Alan Clarke, Rheolwr Cyfranogiad Sector, am Gyfnewidfa Fusnes, rhan o'n rhaglen Catalydd, fel enghraifft rymus o sut rydym ni eisoes yn mynd i'r afael â hyn.

"Mae'r Gyfnewidfa Fusnes yn cefnogi athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr o'r sector AB yn Lloegr i fanteisio ar leoliadau gwaith strwythuredig, er mwyn diweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau galwedigaethol.

Diben yn rhaglen hon yw ymdrin â barn gyffredin ymhlith llawer o gyflogwyr - sef bod diffyg sgiliau perthnasol ar gyfer y gweithle gan ddarpar weithwyr. Mae'r Gyfnewidfa Fusnes yn gweithio ar y rhagdybiaeth y dylai cynnwys cwrs gael ei siapio gan y sector perthnasol, a chyd-fynd ag anghenion y diwydiant sy'n dod i'r amlwg. Mae llwyddiant y rhaglen hon, gyda mwy na 1,600 o athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr eisoes wedi ymrestru, yn awgrymu bod darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn fwy nag awyddus i gydweithio, a'r cyfan mae ei angen yw cymorth ac arweiniad fframwaith arfer gorau i wneud hynny."

Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl lawn ar wefan FE News.

I gael mwy o wybodaeth am y Gyfnewidfa Fusnes, gan gynnwys adnoddau a thystlythyrau, ewch i www.businessinterchange.org.