Safonau:

Safonau - Beth mae pob athro yn ei wybod ac yn gwneud?

Mae'r safonau proffesiynol trosfwaol newydd i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn  sector dysgu gydol oes yng Nghymru yn cynnwys ystod o ddatganiadau (a drefnir yn 5 "parth"), sy'n rhoi manylion gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymarfer proffesiynol yr holl athrawon sy'n gweithio yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru, mewn geiriau eraill; beth ddylai pob athro/athrawes wybod a gallu ei wneud.

Yn ymarferol, caiff pob datganiad yn y safonau eu cymhwyso'n wahanol gan athrawon unigol, yn dibynnu ar faes eu pwnc neu eu harbenigedd. Er enghraifft, mae'r safonau yn datgan bod angen i bob athro/athrawes ddiweddaru eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'u maes hwy eu hunain.

Mae hyn yn cydnabod bod pob athro/athrawes yn gweithio o sylfaen o wybodaeth a dealltwriaeth sy'n berthnasol i'w maes pwnc hwy eu hunain, ac y dylai athrawon ddiweddaru eu hunain yn gyson. Mae'r egwyddor sylfaenol hon yn dal yr un waeth beth fo'r maes pwnc.  

Nid yw'r safonau yn mynd mor bell ag i restru gwybodaeth a sgiliau cyfredol ar gyfer pob maes pwnc gan fod cynifer o wahanol feysydd pwnc ar draws y sector dysgu gydol oes ac yn y rhan fwyaf o achosion mae ffynonellau cydnabyddedig gwybodaeth am wybodaeth a dealltwriaeth sydd yn briodol ar gyfer athrawon y pwnc hwnnw.