LLUK i adolygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Cymunedol
26/06/2008
Mae Dysgu Gydol Oes y DU (LLUK) yn ymgymryd â phrosiect ar hyn o bryd i adnewyddu'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer Datblygu Cymunedol ar draws y DU. Mae LLUK yn diffinio'r gweithlu Datblygu Cymunedol i gynnwys staff cyflogedig a gwirfoddolwyr digyflog y cyflogwyr hynny sy'n darparu'n uniongyrchol neu sy'n cefnogi darparu dysgu gydol oes, ynghyd â'r cyflogwyr hynny nad yw eu hymgysylltiad pennaf oddi mewn i'r ôl troed dysgu gydol oes ond sy'n cyflogi staff sy'n chwarae rôl Datblygu Cymunedol ac sy'n edrych yn gyfiawn at LLUK am eu safonau galwedigaethol penodol.
Datblygwyd y genhedlaeth gyntaf o SGC ar gyfer Datblygu Cymunedol gan y Consortiwm Sector Gofal ym 1995. Datblygwyd yr ail genhedlaeth o SGC ar gyfer Datblygu Cymunedol gan PAULO, y cyn Sefydliad Hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer Dysgu a Datblygu Cymunedol. Cymeradwywyd y rhain gan y Bwrdd Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOSB) yn 2002.
Mae'r genhedlaeth hon o safonau bellach yn barod i'w hadolygu, o ystyried yr amserlen bum mlynedd arferol a'r newidiadau mewn polisi sydd wedi digwydd dros y cyfnod hwn.
Gan weithio gydag ystod eang o randdeiliaid a chyflogwyr yn y sector, bydd LLUK yn ymgymryd ag ymgynghoriad helaeth oddi mewn i'r sector Datblygu Cymunedol yn ddiweddarach yn 2008. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghoriadau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Byddwch cystal ag edrych ar wefan LLUK yn rheolaidd am wybodaeth am y digwyddiadau ymgynghori sydd i ddod i'ch ardal chi.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â Louise Thompson, Rheolwr y Prosiect, drwy e-bost.

