Cynghorau Sgiliau Sector
Yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector (SSDA)
Yn dilyn argymhellion yn Adolygiad Leitch (Ffyniant i bawb yn yr economi fyd-eang - sgiliau o safon fyd-eang), a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2006, ac ymateb y Llywodraeth i Leitch (Sgiliau o safon fyd-eang: gweithredu adolygiad Leitch yn Lloegr) ym mis Gorffennaf 2007, mae'r SSDA bellach wedi cau.
Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector
Lansiwyd Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector ar 1 Ebrill 2008 ac mae'n gorff cyfunol sy'n cynnwys pob un o'r 25 o Gynghorau Sgiliau Sector. Bydd cwmpas llawn y Gynghrair yn datblygu dros amser, ond ei ffocws cychwynnol fydd cynrychioli a chydlynu gwaith strategol Cynghorau Sgiliau Sector i randdeiliaid ar draws y pedair gwlad gartref. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y cyswllt hwn i fynd i wefan y Gynghrair. www.sscalliance.org.
Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau
Dechreuodd Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau weithredu ar 1 Ebrill 2008. Fe'i sefydlwyd o ganlyniad i Leitch, ac mae'n gweithredu ar draws y DU ac yn chwarae rhan ganolog i gynyddu sylfaen sgiliau'r DU, gwella cynhyrchiant a chystadleurwydd, cynyddu cyflogaeth a chyfrannu at gymdeithas decach. Bydd yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau'r uchelgeisiau i'r DU o gyflawni proffil sgiliau o safon fyd-eang erbyn 2020, a'r uchelgais i gyrraedd cyfradd gyflogaeth o 80%.
I gael mwy o wybodaeth am Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, trowch at www.ukces.org.uk.

