Cyrsiau'r Cynllun Sabothol Iaith-Gymraeg yn 2008/09

01/05/2008

Datblygwyd y Cynllun Sabothol iaith-Gymraeg gan Lywodraeth y Cynulliad i gynyddu nifer yr ymarferwyr dwyieithog ledled Cymru. Mae wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus ers mis Ionawr 2006, ac mae adborth y cyfranogwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda 100% yn cwblhau'r hyfforddiant. O ganlyniad i hyn, a gwerthusiad allanol, mae'r cynllun peilot wedi cael ei ymestyn am ddwy flynedd arall, gyda chyrsiau yn rhedeg tan fis Gorffennaf 2009.

Mae'r cynllun wedi'i anelu at athrawon, darlithwyr a darparwyr hyfforddiant yn y gweithle sy'n siarad Cymraeg yn weddol rugl ond sydd heb yr hyder na'r derminoleg arbenigol i ddefnyddio'r sgiliau hyn mewn cyd-destun proffesiynol. Mae athrawon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, darlithwyr addysg bellach a darparwyr hyfforddiant yn y gweithle yng Nghymru yn gymwys. Gallant fod yn gweithio'n rhan amser neu'n llawn amser. Gellir ystyried staff cyflenwi hefyd yn dibynnu ar amodau penodol. Hoffwn estyn gwahoddiad personol i chi a'ch ymarferwyr fod yn rhan o'r cynllun arloesol hwn.

Mae yna ddwy fantais i'r cynllun. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi cyfle i'ch ymarferwyr ddatblygu sgiliau Cymraeg ynghyd â chael hyfforddiant methodolegol mewn addysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a therminoleg arbenigol yn y Gymraeg. Yn ail, bydd eich ysgol neu'ch sefydliad a'ch disgyblion yn elwa ar y defnydd cynyddol o'r Gymraeg ar gyfer addysgu ac asesu, o'r Cyfnod Sylfaen i addysg uwchradd ac ôl-16.

Mae dau fath o hyfforddiant ar gael, naill ai'r cwrs bloc llawn amser neu'r cwrs dysgu o bell. Mae'r ddau yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a bydd bwrsariaethau yn ad-dalu unrhyw gostau cyflenwi a theithio.

Proses gais

Am wybodaeth bellach a phecyn cais, cysylltwch â'r Tîm Sabothol ar: 01443 663770, cynllunsabothol@cymru.gsi.gov.uk, neu www.cymru.gov.uk/cynllunsabothol.