Safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru
25/03/2008
Ym mis Mawrth 2007 rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru dasg i Lifelong Learning UK, i adolygu'r Safonau Addysgu a Chefnogi Dysgu ar gyfer Cymru a Lloegr (a ddatblygwyd yn wreiddiol gan y Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol Addysg Bellach). Er yn ystyriol o'r angen am drosglwyddadwyedd trawsffiniol, mae'r adolygiad ar gyfer Cymru wedi rhoi'r cyfle i ddatblygu safonau ar gyfer athrawon er mwyn adlewyrchu natur unigryw y cyd-destun yng Nghymru.
Mae'r safonau proffesiynol terfynol ar gyfer athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yn disgrifio, yn gyffredinol, y sgiliau, y wybodaeth a'r rhinweddau sy'n ofynnol gan y rheini sy'n ymgymryd â'r ystod eang o swyddogaethau addysgu a hyfforddi o fewn y sector gyda dysgwyr a chyflogwyr. Mae'r safonau'n:
-
rhydd o gyd-destun a rhydd o lefelau, er mwyn cynrychioli pob maes ac athrawon newydd, athrawon profiadol ac addysgwyr athrawon
-
cynrychioli'r cylch addysgu a dysgu, y mae pob athro neu athrawes yn ymgysylltu ag ef: asesiad cychwynnol, cynllunio a pharatoi, addysgu, asesu, gwerthuso a gwella safon drwy ymateb i werthusiad.
Safonau proffesiynol newydd i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru (PDF, 494KB)
Accompanying letter (PDF, 27KB)

