Ymwelwch â gwefannau newydd a gwell grwp LLUK
25/02/2008
Heddiw mae dwy wefan newydd yn cael eu lansio ar gyfer grwp LLUK. Mae gwedd a naws hollol newydd wedi cael eu rhoi i safleoedd LLUK a SVUK. Rydym wedi adnewyddu'r holl gynnwys - o ddigwyddiadau ymgynghori, diweddariadau prosiect a mentrau i dudalennau pwrpasol ar gyfer holl genhedloedd y DU a'r holl feysydd gwaith rydym ni'n ymdrin â nhw.
Mae'r safle'n ddeinamig, gyda ffocws ar y defnyddiwr, felly mae'n siwr gennym y bydd yn llawer haws i chi we-lywio a chael yr wybodaeth mae arnoch chi ei hangen yn llawer cynt. P'un a ydych chi'n gyflogwr dysgu gydol oes, yn gweithio yn y sector, yn gweithio gyda grwp LLUK, â diddordeb mewn ymuno â'r sector neu hyd yn oed ymuno â ni, rydym wedi mynd ati i ddylunio safle i sicrhau mai profiad positif yw'ch rhyngweithio â ni.
Os oes angen gwybodaeth bellach a chyngor arnoch chi am ein prosiectau neu ddatblygiad proffesiynol yn y sector, mae dolen ar bob tudalen erbyn hyn â'n gwasanaeth gwybodaeth a chyngor.
Rydym yn gweithio'n galed ochr yn ochr â'n cyflogwyr i fynd â'r gweithlu addysg yn ei flaen ac rydym eisiau i chi wybod hynny.
Mewngofnodwch nawr yn http://www.lluk.org/ a http://www.svuk.eu/. Edrychwn ymlaen at eich ymweliad.

