Lansio LLUK yng Nghymru

Lansiwyd Lifelong Learning UK yng Nghymru yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar 28 Medi 2005. Mae lluniau o'r digwyddiad ar gael.

Yn siarad yn y lansiad, a fynychwyd gan gyflogwyr dysgu gydol oes a chynrychiolwyr o sefydliadau eraill ledled Cymru, dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, fod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ddisgwyliadau uchel o LLUK. "Rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda Lifelong Learning UK trwy'r cytundeb partneriaeth strategol," dywedodd. "Mae gen i ddisgwyliadau sylweddol ohonyn nhw wrth iddyn nhw wynebu'r her a sicrhau bod safonau a chymwysterau'r bobl sy'n darparu hyfforddiant yn y sector dysgu gydol oes heb eu hail."

Roedd LLUK mewn sefyllfa dda i groesawu'r anghenion a'r heriau amrywiol sy'n wynebu proffesiynolion dysgu o wahanol rannau o'r DU, dywedodd Prif Weithredwr LLUK, David Hunter. "Ein blaenoriaeth yw rhoi llais i'n cyflogwyr a'n galluogi i wir gynrychioli ein gweithlu." Ychwanegodd: "Rydyn ni'n ymroddedig i helpu pob lefel o staff.... i gymryd rhan mewn hyfforddiant cychwynnol a datblygiad proffesiynol parhaus.  Nid dyma yw diwedd y gân, ond mae'n gydnabyddiaeth o'r effaith gynyddol y bydd yn ei chael ar weddill y gweithlu."

Ychwanegodd John Hedger, Cadeirydd LLUK: "Trwy gynnig gweithlu mwy medrus i gyflogwyr yr economi ehangach, gallwn ni helpu Cymru, a gweddill y DU, i gystadlu'n fwy effeithiol yn rhyngwladol."

Arweinir gwaith LLUK yng Nghymru gan yr arbenigwraig dysgu a datblygu, Michelle Sayers, sydd hefyd yn gadeirydd ar Rwydwaith Sgiliau ar gyfer Busnes Cymru.