SVUK Documents

Associated Documents

    Grwp Gweithredu Cydraddoldeb Anabledd

    Deilliodd y Grwp Gweithredu Cydraddoldeb Anabledd (DEIG) o'r adroddiad "From Compliance to Culture Change - Disabled Staff Working in Lifelong Learning" a gyhoeddwyd gan y Comisiwn dros Staff Anabl mewn Dysgu Gydol Oes ym mis Mawrth 2008. Pwrpas y Grwp Gweithredu Cydraddoldeb Anabledd yw monitro gweithredu argymhellion y comisiwn dros staff anabl mewn dysgu gydol oes yn llawn. Bydd y Grwp yn canolbwyntio ar gydraddoldeb anabledd yng ngweithlu'r sector dysgu gydol oes yn y DU. Mae pob aelod yn ymroi i arddangos arfer da ac mae'r grwp yn ymroddedig i hyrwyddo modelau cymdeithasol a chadarnhaol anabledd. Mae'r Grwp yn cyfarfod pum gwaith y flwyddyn.

    Aelodaeth:

    • Cymdeithas y Colegau
    • Cymdeithas Rheolwyr Colegau
    • Coleg Cymunedol Lerpwl
    • Dysgu Gydol Oes yn y DU
    • Cyngor Dysgu a Sgiliau (LSC)
    • Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau (LSIS)
    • National Star College
    • Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion (NIACE)
    • Swyddfa dros faterion Anabledd
    • Ofsted
    • RNIB (Y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer y Deillion)
    • RNID (Y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer y Byddar)
    • Scottish Disability Team
    • Dyslexia Action (Dyslexia Institute gynt)
    • Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU)
    • UNSAIN
    • Llywodraeth Cynulliad Cymru

    Am fwy o wybodaeth ar gefndir cydraddoldeb anabledd yn y sector, ewch i'r Comisiwn dros Staff Anabl mewn Dysgu Gydol Oes am fwy o fanylion.

    Mae cynllun gwaith DEIG yn amlinellu'r gweithgareddau allweddol mae aelodau'r grwp wedi ymrwymo i'w gweithredu yn ystod 2008-2009, a chyn bo hir fe fydd dolen ar gael i chi gysylltu â hwn. Bydd nod DEIG o gael cydraddoldeb anabledd ar draws y sector dysgu gydol oes cyfan yn y DU yn cyfrannu'n uniongyrchol at Strategaeth Gweithlu AB Lloegr, y Cytundeb Sgiliau Sector a'r Strategaeth Cymwysterau'r Sector.

    Am ddogfennau sy'n berthnasol i'r Grwp Gweithredu Cydraddoldeb Anabledd cliciwch ar y ddolen neu am fwy o wybodaeth ynglyn â grwp gweithredu, cysylltwch â'r tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.