LLUK Documents
Associated Documents
- lywio prosesau cynllunio ar gyfer y sector
- darparu gwybodaeth i hybu gweithredu gan y llywodraeth
- cefnogi recriwtio, cadw a datblygu staff
- beincnodi eu sefydliad yn erbyn y sector dangos eu bod yn cydymffurfio mewn amgylchedd hunan-reoleiddio (er enghraifft, mewn meysydd fel cydraddoldeb ac amrywiaeth)
- Cymdeithas y Colegau
- Cymdeithas Rheolwyr Colegau
- Coleg Cymunedol Lerpwl
- Dysgu Gydol Oes yn y DU
- Cyngor Dysgu a Sgiliau (LSC)
- Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau (LSIS)
- National Star College
- Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion (NIACE)
- Swyddfa dros faterion Anabledd
- Ofsted
- RNIB (Y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer y Deillion)
- RNID (Y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer y Byddar)
- Scottish Disability Team
- Dyslexia Action (Dyslexia Institute gynt)
- Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU)
- UNSAIN
- Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Abbreviations and Acronyms (PDF, 207KB )
Sgiliau'r Gweithlu ym maes Dysgu Gydol Oes
Dadansoddiad o'r Arolwg Cenedlaethol Sgiliau Cyflogwyr yn Lloegr 2007, gyda chymariaethau â'r DU gyfan.
Mae Dysgu Gydol Oes yn y DU wedi cynhyrchu dadansoddiad o ddata'r Arolwg Cenedlaethol Sgiliau Cyflogwyr o 2007 sy'n ymdrin â materion recriwtio, sgiliau a hyfforddiant a gafodd eu hadrodd gan gyflogwyr dysgu gydol oes yn Lloegr. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn cymharu'r canfyddiadau ag arolygon sgiliau cyflogwyr yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Lawrlwythwch yr adroddiad drwy glicio ar y ddolen: Sgiliau'r Gweithlu ym maes Dysgu Gydol Oes (Saesneg yn unig, PDF 3MB)
Proses casglu data yn agor yn Lloegr
17/11/2008
Mae Dysgu Gydol Oes yn y DU ar fin dechrau'r casgliad blynyddol cyntaf o ddata gweithlu sydd wedi ei ddatblygu'n benodol ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol i oedolion. Bydd y data sy'n cael ei gasglu'n caniatáu dealltwriaeth well o'r gweithlu, ac yn helpu darparwyr dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol drwy:
Nodir yr angen am well dealltwriaeth o holl weithlu'r sector addysg bellach yn The Workforce Strategy for the Further Education Sector in England.
Mae casglu data am y gweithlu wedi rhoi trosolwg cynhwysfawr o broffil yr holl staff sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach ers 2001/02 ar ffurf y Cofnod Staff Unigol, sydd hefyd yn cael eu casglu gan Dysgu Gydol Oes yn y DU. Hyd yma, nid yw ymagwedd debyg at gasglu data gweithlu o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith na darparwyr dysgu i oedolion a chymunedol wedi bodoli. Mae proses casglu data ar gyfer y rhan hon o'r sector yn gam pwysig tuag at ddeall natur y gweithlu cyfan.
Mae pob darparwr dysgu seiliedig ar waith a darparwr dysgu i oedolion a chymunedol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y broses casglu data, sy'n agor ar 1 Rhagfyr.
Mae Dysgu Gydol Oes yn y DU bellach yn derbyn datganiadau o ddiddordeb oddi wrth ddarparwyr sy'n dymuno cymryd rhan. I ddysgu mwy ewch i: www.lluk.org/workforce-data-collection.htm
Grwp Gweithredu Cydraddoldeb Anabledd
Deilliodd y Grwp Gweithredu Cydraddoldeb Anabledd (DEIG) o'r adroddiad "From Compliance to Culture Change - Disabled Staff Working in Lifelong Learning" a gyhoeddwyd gan y Comisiwn dros Staff Anabl mewn Dysgu Gydol Oes ym mis Mawrth 2008. Pwrpas y Grwp Gweithredu Cydraddoldeb Anabledd yw monitro gweithredu argymhellion y comisiwn dros staff anabl mewn dysgu gydol oes yn llawn. Bydd y Grwp yn canolbwyntio ar gydraddoldeb anabledd yng ngweithlu'r sector dysgu gydol oes yn y DU. Mae pob aelod yn ymroi i arddangos arfer da ac mae'r grwp yn ymroddedig i hyrwyddo modelau cymdeithasol a chadarnhaol anabledd. Mae'r Grwp yn cyfarfod pum gwaith y flwyddyn.
Aelodaeth:
Am fwy o wybodaeth ar gefndir cydraddoldeb anabledd yn y sector, ewch i'r Comisiwn dros Staff Anabl mewn Dysgu Gydol Oes am fwy o fanylion.
Mae cynllun gwaith DEIG yn amlinellu'r gweithgareddau allweddol mae aelodau'r grwp wedi ymrwymo i'w gweithredu yn ystod 2008-2009, a chyn bo hir fe fydd dolen ar gael i chi gysylltu â hwn. Bydd nod DEIG o gael cydraddoldeb anabledd ar draws y sector dysgu gydol oes cyfan yn y DU yn cyfrannu'n uniongyrchol at Strategaeth Gweithlu AB Lloegr, y Cytundeb Sgiliau Sector a'r Strategaeth Cymwysterau'r Sector.
Am ddogfennau sy'n berthnasol i'r Grwp Gweithredu Cydraddoldeb Anabledd cliciwch ar y ddolen neu am fwy o wybodaeth ynglyn â grwp gweithredu, cysylltwch â'r tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

