Addysg Gymunedol
Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn cynrychioli cyflogwyr, rhan-ddeiliaid a staff sy'n gweithio ym maes Addysg Gymunedol.
Mae addysg gymunedol yn cwmpasu'r ystod o anghenion dysgu y mae ei hymagwedd yn integreiddio gwaith gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion, ynghyd â chefnogaeth addysgol er mwyn datblygiad cymunedol. Mae'n pwysleisio darparu cefnogaeth dysgu a datblygu yn y gymuned ar gyfer unigolion a grwpiau, yn seiliedig ar anghenion ac ystyriaethau a nodwyd.
Defnyddiwyd addysg gymunedol yn Yr Alban tan 2003 i ddisgrifio cyfuniad o addysg oedolion, datblygiad cymunedol a gwaith ieuenctid, ond cyfeirir ato erbyn hyn fel dysgu a datblygu cymunedol. Yn Lloegr, mae llawer o ysgolion a sefydlwyd fel ysgolion cymunedol wedi mabwysiadu ymagwedd addysg gymunedol.
Tynnwyd y testun hwn (yn Saesneg) o "Common core" occupational and functional mapping, a gyhoeddwyd yn 2004 gan y Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol ar gyfer Dysgu a Datblygu Cymunedol (PAULO) ac sydd ar gael trwy glicio ar y ddolen neu gan y 'Skills Foresight Report' a gyhoeddwyd gan (PAULO) yn 2004 hefyd.

