Datganiad i'r wasg - panel gwlad Cymru
Pennaeth llyfrgelloedd yn cadeirio panel cyflogwyr Cymru - dydd Iau, 15 Mehefin 2005
Bydd Alan Watkin, Prif Swyddog Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant Cyngor Wrecsam, yn cadeirio panel newydd sy'n cynrychioli cyflogwyr dysgu gydol oes ledled Cymru. Bydd y panel yn cynghori Lifelong Learning UK ar faterion sy'n ymwneud â datblygu gweithluoedd.
Hefyd yn aelod o gyngor cenedlaethol LLUK, dywedodd Alan Watkin y byddai gan y panel ddylanwad mawr ar waith LLUK ac y byddai'n sicrhau bod hyfforddi a datblygu'r gweithlu dysgu gydol oes yn briodol i'r heriau sgil sy'n wynebu Cymru.
"Dw i wrth fy modd â lled aelodaeth y panel, yn ogystal â'i led ddaearyddol, a fydd yn caniatáu i ni ddod ag amrywiaethau o safbwyntiau i'r pethau rydyn ni'n eu trafod," ychwanegodd.
Mae'r panel yn cynnwys cyflogwyr a rhan-ddeiliaid allweddol o'r pum etholaeth dysgu gydol oes, ynghyd â Felicity Williams, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru. Bydd yn cyfarfod o leiaf tair gwaith y flwyddyn.
Dywedodd Michelle Sayers, Rheolwr Cenedlaethol LLUK yng Nghymru, ei bod hi'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r panel a chlywed barn cyflogwyr. "Dw i'n hyderus y bydd yn rhoi hwb ymlaen i ni wrth i ni roi'r agenda dysgu gydol oes ar waith yng Nghymru," dywedodd.
Mae gwybodaeth bellach am panel gwlad Cymru ar gael trwy glicio'r cyswllt.

