Cynllun sabothol Cymraeg
Datblygwyd y cynllun sabothol Cymraeg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynyddu nifer yr ymarferwyr dwyieithog ledled Cymru. Mae'n cynnig tri mis o hyfforddiant iaith ac addysgol i'r rhai sy'n dymuno addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Pwrpas y cwrs hyfforddi dwys, sy'n cynnwys tri mis o hyfforddiant iaith ac addysgol, yw cynyddu nifer yr athrawon, darlithwyr a darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith ledled Cymru sy'n gallu defnyddio'r iaith mewn cyd-destun proffesiynol.
Ers i'r cynllun peilot ddechrau, mae 72 o bobl wedi cwblhau'r hyfforddiant. Anelir y cynllun, a ddarperir ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a Phrifysgol Caerdydd, at siaradwyr sy'n weddol rugl ond sydd am ddatblygu eu hyder a therminoleg er mwyn iddynt allu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yn parhau tan fis Gorffennaf 2009.
Bydd llawer mwy o ymarferwyr yn gallu manteisio ar yr hyfforddiant hwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Ariennir y cyrsiau'n llawn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac ad-delir costau llanw a theithio hefyd. Gall ymarferwyr cymwys gymryd rhan yn y cyrsiau a fydd yn cael eu cynnal yn ystod blynyddoedd academaidd 2007-08 a 2008-09.
Mae gwybodaeth bellach ar gael am y cynllun, ynghyd ag astudiaethau achos Eleanor Lewis a Bethan Williams, sydd wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

