Y cytundeb partneriaeth strategol yng Nghymru

Bwriad cytundeb partneriaeth strategol Lifelong Learning UK yw symud prosiectau hanfodol yn eu blaenau a helpu i fodloni blaenoriaethau a thargedau penodol a osodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) a'i phartneriaid rhwng 2005 a 2007.
 
Mae LlCC wedi addo cefnogaeth i LLUK am brosiectau sy'n ceisio datblygu sgiliau'r gweithlu dysgu gydol oes sy'n cael eu cyflawni yn y tair blynedd nesaf.

Mae prosiect ychwanegol a ariennir gan ELWA (Addysg a Dysgu Cymru) ar waith i helpu i gynyddu nifer y staff sydd â sgiliau tiwtora ar draws y sector dysgu gydol oes.

Dywed Cyfarwyddwr Cymru LLUK, Michelle Sayers, y bydd y prosiect yn adeiladu ar brofiad tiwtoriaid addysg bellach er mwyn i fwy o staff ennill sgiliau tiwtora, yn enwedig yn y gweithle ac yn y gymuned.

Bydd deunyddiau hyfforddi'n cael eu cynhyrchu yn Gymraeg a Saesneg er mwyn i staff allu diweddaru eu sgiliau a gwybodaeth, ac anogir cyrff dyfarnu i ddarparu mwy o gymwysterau proffesiynol i diwtoriaid.