Colegau'n rhannu gwobr datblygu gweithlu

19 Mawrth 2007

Mae enillwyr gwobr llawn bri i golegau AB Cymru wedi eu cyhoeddi.  Bu i chwe choleg gystadlu am wobr fforwm/ LLUK mewn perthynas â datblygu gweithlu ym maes addysg a hyfforddiant ôl-16.  Ond roedd cyflwyniadau dau goleg o safon mor rhyfeddol o uchel nes i'r ddau, sef Coleg Llandrillo a Choleg Menai, ennill y wobr gyntaf.

Amlinellodd Coleg Llandrillo raglen wych, gan gynnwys y system STEPS (System Cynllunio Hyfforddiant a Digwyddiadau i Staff).  Mae llawer o golegau o Gymru a gweddill y DU wedi ymweld â Llandrillo er mwyn gweld STEPS ar waith ac mae hyn wedi cyfrannu at y coleg yn ennill 'statws seren' Gwobr Cwmnïau Gorau 2007.

Roedd prosiect Coleg Menai, 'Cefnogi Staff i Gyflawni Rhagoriaeth' yn enghraifft o weledigaeth a nod y coleg i gynorthwyo staff i gyflawni eu potensial llawn trwy raglenni hyfforddi a datblygu parhaus.  Mae blaenoriaethau datblygu staff yn cynnwys sgiliau arwain, TGCh, a dysgu ac addysgu.  Mae pob un o'r rhain yn gysylltiedig â safonau cenedlaethol (LLUK).

Roedd y wobr yn un o wyth gwobr gan fforwm a gyhoeddwyd yng nghynhadledd flynyddol fforwm yng Nghaerdydd, sy'n cydnabod cyfraniad colegau mewn gwella safonau addysg a hyfforddiant AB a chyflawniadau dysgwyr.  Canmolwyd yr enillwyr am eu cyfraniad i adeiledd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, ac am gychwyn a hybu datblygiadau allweddol er budd dysgwyr.

Mae rhestr lawn o'r enillwyr a gwybodaeth bellach ar y gwobrau ar gael.