Trosolwg o LLUK
Lifelong Learning UK (LLUK) yw'r cyngor sgiliau sector a arweinir gan gyflogwyr sy'n gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol pawb sy'n gweithio ym maes dysgu a datblygu cymunedol, addysg bellach, addysg uwch, llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth, a dysgu seiliedig ar waith ledled y DU. Rydym yn cynrychioli buddiannau'r 1 miliwn+ o unigolion sy'n gweithio yn y sector dysgu gydol oes yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru a ni yw llais cyflogwyr y sector hwn ar faterion sgiliau.
Mae LLUK yn cynnig safbwynt strategol ar gyfer cynllunio a datblygu gweithlu ac mae'n dylanwadu a llunio polisïau perthnasol ledled pedair cenedl y DU. Yn gyfrifol hefyd am ddatblygu'r Strategaeth Cymwysterau Sector ar gyfer y sector dysgu gydol oes, caiff LLUK ei drwyddedu gan lywodraethau'r DU i osod safonau ar gyfer gallu galwedigaethol ym maes darparu a chefnogi dysgu, ynghyd â maes rheoli gwybodaeth.
Mae LLUK yn arwain y gwaith o gasglu a choladu data gweithlu ac mae'n dadansoddi nodweddion a thueddiadau'r gweithlu er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio gweithlu'n well. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a rhan-ddeiliaid allweddol eraill i wella'r deialog rhwng ein cyflogwyr a'r rhai sy'n disgwyl i'r sector dysgu gydol oes i fodloni eu hanghenion sgiliau nhw. (Am restr o delerau cyffredin y sector, gweler yr adran byrfoddau ac acronymau.)
I gael gwybodaeth ar bwriad, gweledigaeth, blaenoriaethau strategol a gwaith rhyngwladol LLUK, cliciwch ar y ddolen briodol. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar Cyngor a phwyllgorau LLUK a'r cyfrifon.
Er mwyn cysylltu â LLUK, mynd i digwyddiadau neu danysgrifio i e-Fwletin neu e-Newyddion Polisi LLUK, cliciwch ar y ddolen briodol.
Mae gwasanaethau Canolfan Gyfryngau LLUK ar gael i newyddiadurwyr ac awduron ac mae adrannau hefyd ar recriwtio a tendrau.

