Trosolwg o safonau a chymwysterau
Mae Tîm Safonau a Chymwysterau Lifelong Learning UK (LLUK) yn gweithio'n agos â chyflogwyr a rhan-ddeiliaid ledled y DU i ddatblygu a chodi ymwybyddiaeth o safonau a chymwysterau yn y sector dysgu gydol oes. Ni yw'r corff sy'n gosod safonau ledled y DU a byddwn yn lansio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol 50+ yn gynnar yn 2008.
Mae LLUK yn ymroddedig i fodloni anghenion y gweithlu dysgu gydol oes ar draws pob un o'n meysydd gwaith ac mae'n rhan o nifer o brosiectau sy'n estyn hyfforddiant priodol i'r rhai sy'n cychwyn yn y sector neu sy'n ymgymryd â datblygiad proffesiynol.
Prif elfen o'r gweithgarwch presennol yn Lloegr yw ailwampio addysg gychwynnol i athrawon/tiwtoriaid/hyfforddwyr sy'n cael ei arwain gan LLUK ac sy'n gysylltiedig iawn â'r cynnydd ym maes datblygiad proffesiynol Sgiliau ar gyfer Bywyd. Mae gwaith mapio ac arolygu perthnasol yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn Yr Alban a Chymru.
Yn debyg, mae LLUK yn cefnogi datblygu staff mewn swyddi arwain a rheoli ledled y DU a chyflawni'r diplomas 14-19 newydd yn Lloegr. Mae LLUK yn arwain datblygiad y strategaeth cymwysterau sector hefyd ac mae'n chwarae rôl bwysig mewn technoleg gwybodaeth a dysgu ac e-ddysgu.
I'r rhai sy'n dechrau yn y proffesiwn, mae LLUK yn rheoli ardystio prentisiaethau yn Lloegr, Yr Alban a Chymru, mae'n rhan o waith datblygu mewn perthynas â graddau sylfaen yng Nghymru a Lloegr ac mae'n cynnig cyngor ar gymwysterau i yrfaoedd mewn llyfrgelloedd ac archifau, ynghyd â gwaith ieuenctid a gweithio gyda rhieni.
Am ymholiadau am weithgareddau Safonau a Chymwysterau, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost neu drwy ffonio 020 7936 5747.
Sylwer bod LLUK wedi cyfieithu'r holl wybodaeth sy'n berthnasol i Gymru a'r DU i'r Gymraeg lle mae hyn wedi bod yn bosibl. Lle na fu hyn yn bosibl hyd yma, byddwn yn ystyried cyfieithu tudalennau ychwanegol i'r Gymraeg ar gais. Cysylltwch â ni os hoffech ein hysbysu o'r tudalennau hyn.

