Trosolwg o gydraddoldeb ac amrywiaeth

Pam fo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn bwysig i'r gweithlu dysgu gydol oes?
 
Mae hyrwyddo amrywiaeth yn y gweithlu dysgu gydol oes yn ymwneud â denu a chadw'r bobl orau, ni waeth i ba grwp y maent yn perthyn.  Mae tystiolaeth sylweddol i ddangos bod sefydliadau cynhwysol yn cael budd o amrywiaeth trwy: 

  • gystadleuaeth well - denu a chadw gweithwyr mwy medrus sy'n deall anghenion eu dysgwyr ac sy'n parchu gwahaniaethau
  • perfformiad a chanlyniadau gwell - creu amgylchedd gwaith lle anogir pawb i gyrraedd eu potensial llawn
  • gwasanaethau cwsmer gwell - gallu adlewyrchu a bodloni anghenion amrywiol dysgwyr a
  • chysylltiadau staff gwell sy'n lleihau'r risg o dribiwnlysoedd costus, trwy gydymffurfio â deddfwriaeth gwrthwahaniaethu. 

Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn ymroddedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector ac mae'n hyrwyddo hyn yn weithredol.  I wybod mwy am sut mae LLUK yn codi ymwybyddiaeth o ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth, cliciwch ar y ddolen.

I gael rhagor o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltwch â'r Tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth trwy e-bost.

Sylwer bod LLUK wedi cyfieithu'r holl wybodaeth sy'n berthnasol i Gymru a'r DU i'r Gymraeg lle mae hyn wedi bod yn bosibl.  Lle na fu hyn yn bosibl hyd yma, byddwn yn ystyried cyfieithu rhagor o dudalennau i'r Gymraeg ar gais. Cysylltwch â ni os hoffech ein hysbysu o'r tudalennau hyn.