Trosolwg o ymchwil

Mae swyddogaeth ymchwil Lifelong Learning UK (LLUK) yn cynhyrchu gwybodaeth gadarn a dibynadwy am y farchnad lafur a'r sector dysgu gydol oes ar draws pedair cenedl y DU. 

Er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae tîm ymchwil LLUK yn ymgymryd ag amrywiaeth o ymchwil sy'n defnyddio methodolegau ansoddol a mesurol.  Mae ein gweithgareddau'n cynnwys y canlynol:

  • casglu data cynradd
  • dadansoddiad eilaidd (ystadegol ac ansoddol)
  • modelu ystadegol

Mae rhagor o wybodaeth am ein gweithgareddau ledled y DU ar gael trwy glicio ar y dolenni priodol isod:

I weld gwybodaeth am weithgarwch ymchwil presennol, prosiectau sydd ar ddod a'r rhai a gwblhawyd, ewch i'r calendr ymchwil.

Am unrhyw ymholiadau pellach am waith ymchwil presennol a chynlluniau'r dyfodol neu i ofyn am adroddiadau ymchwil, cysylltwch â'r tîm ymchwil trwy e-bost neu drwy ffonio 020 7936 5716.

Sylwer bod LLUK wedi cyfieithu'r holl wybodaeth sy'n berthnasol i Gymru a'r DU i'r Gymraeg lle mae hyn wedi bod yn bosibl.  Os na fu hyn yn bosibl hyd yma, byddwn yn ystyried cyfieithu tudalennau ychwanegol i'r Gymraeg ar gais.  Cysylltwch â ni os hoffech ein hysbysu o'r tudalennau hyn.