Trosolwg o ddysgu seiliedig ar waith
Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn cynrychioli staff sy'n gweithio ar gyfer sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant (galwedigaethol), sy'n bennaf seiliedig ar waith, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant cenedlaethol, darparwyr hyfforddiant arbenigol a sefydliadau hyfforddiant eraill yn y sector preifat.
Mae nifer gyfartalog y staff sy'n gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith (WBL) fel a ganlyn:
- 30,000 staff yn Lloegr
- 1,625 staff yng Ngogledd Iwerddon
- 75,000 yn Yr Alban
- 30,000 yng Nghymru.
(Adroddiad cam 1 cytundeb sgiliau sector LLUK).
Mae 2,000 o sefydliadau WBL a chaiff eu gwaith ei ariannu gan adrannau addysg a hyfforddiant neu gynghorau/asiantaethau cyllido penodol ym mhob un o genhedloedd y DU, ynghyd â chan asiantaethau datblygu rhanbarthol, cyflogwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae rhai o brif ran-ddeiliaid y sector WBL fel a ganlyn:
- Cymdeithas y Darparwyr Dysgu (ALP)
- Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant (ETI)
- Gwasanaeth Cyfarwyddyd Addysgol i Oedolion (EGSA)
- Learningworks
- Cyngor Dysgu a Sgiliau(LSC)
- Swyddfa Safonau mewn Addysg (OfSTED)
- Asiantaeth Gwella Ansawdd (QIA)
- Ffederasiwn Hyfforddiant Yr Alban
- Llywodraethau cenedlaethol pedair cenedl y du
Mae dolenni i sefydliadau eraill yn y sector WBL wedi ei chynnwys yn y tudalennau cenhedloedd.
Mae gwybodaeth fanwl am y sector WBL ar gael ar y tudalennau ymchwil, sy'n cynnwys gwybodaeth am brosiectau ac adroddiadau yn y maes hwn.
I gael gwybodaeth am arwain a rheoli, ailwampio addysg gychwynnol i athrawon a datblygiad proffesiynol Sgiliau ar gyfer Bywyd, ewch i'r tudalennau Safonau a Chymwysterau pages. Mae gwybodaeth ar gael hefyd am Strategaeth Gweithlu Sector AB Lloegr.
I ddysgu mwy am yrfaoedd a datblygiad proffesiynol yn y sector WBL, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor LLUK, sy'n cynnig cyngor arbenigol am ddim ar ffurf llinell gymorth.

