Trosolwg o lyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth
Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn cynrychioli llyfrgellwyr, archifwyr a darparwyr gwasanaethau gwybodaeth sy'n gweithio mewn llyfrgelloedd a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys y rhai mewn prifysgolion a cholegau.
Mae nifer gyfartalog y staff sy'n gweithio mewn llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth (LAIS) fel a ganlyn:
- 44,300 staff yn Lloegr
- 380 staff yng Ngogledd Iwerddon
- 5,205 yn Yr Alban
- 2,122 yng Nghymru.
(Adroddiad Cam 1 Cytundeb Sgiliau Sector LLUK).
Mae rhyw 2,000 o lyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth ledled y DU, a ariennir gan amrywiaeth o ffynonellau.
Mae rhai o brif ran-ddeiliaid y sector LAIS fel a ganlyn:
- Cyngor Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Gwybodaeth (LISC)
- Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru (CyMAL)
- Sefydliad Siartredig y Proffesiynolion Gwybodaeth a Llyfrgell (CILIP)
- Sefydliad Siartredig Proffesiynolion Gwybodaeth a Llyfrgell Yr Alban (CILIPS)
- Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Lloegr
- llywodraethau cenedlaethol pedair cenedl y DU
- Cyngor Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Yr Alban
- Cymdeithas yr Archifwyr
- Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr.
Mae dolenni i sefydliadau eraill yn y sector LAIS wedi eu cynnwys ar y tudalennau cenhedloedd perthnasol.
Mae gwybodaeth fanwl am y sector LAIS ar gael ar y tudalennau ymchwil perthnasol, sy'n cynnwys gwybodaeth am brosiectau ac adroddiadau yn y maes hwn.
I gael gwybodaeth am arwain a rheoli a ymwysterau ar gyfer gyrfa ym maes llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth, ewch i'r tudalennau Safonau a Chymwysterau perthnasol.
I ddysgu mwy am yrfaoedd a datblygiad proffesiynol yn y sector LAIS, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor LLUK, sy'n cynnig cyngor arbenigol am ddim ar ffurf llinell gymorth.

