Trosolwg o addysg bellach
Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn cynrychioli staff sy'n gweithio mewn colegau AB cyffredinol, colegau trydyddol a chweched dosbarth, colegau arbenigol annibynnol, colegau rhanbarthol Gogledd Iwerddon, colegau'r Alban a darpariaeth ddysgu ôl-16 yng Nghymru.
Mae nifer gyfartalog y staff sy'n gweithio mewn addysg bellach fel a ganlyn:
- 246,000 staff yn Lloegr
- 6,357 staff yng Ngogledd Iwerddon
- 12,330 yn Yr Alban
- 9,122 yng Nghymru.
(Adroddiad Cam 1 Cytundeb Sgiliau Sector LLUK).
Mae yna 470 o sefydliadau AB yn y DU, sy'n bennaf ymwneud â dysgu ôl-oedran gorfodol, er i'r sector gynnig dysgu cymunedol a dysgu seiliedig ar waith hefyd, ynghyd â rhaglenni wedi eu lleoli mewn sefydliadau.
Mae rhai o brif ran-ddeiliaid y sector AB fel a ganlyn:
- Grwp 157
- Cymdeithas y Colegau (AoC)
- Cymdeithas y Colegau Arbenigol Cenedlaethol (NatSpec)
- Cymdeithas Colegau'r Alban
- Canolfan Rhagoriaeth wrth Arwain (CEL)
- Fforwm
- Asiantaeth Datblygu Addysg Bellach, FEDA CymruF
- Cyngor Dysgu a Sgiliau (LSC)
- Rhwydwaith Dysgu a Sgiliau (LSN)
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW)
- llywodraethau cenedlaethol pedair cenedl y DU
- Sefydliad Dysgu (IfL)
- Asiantaeth Gwella Ansawdd (QIA)
- Cyngor Cyllid Yr Alban
- Sixth Form Colleges Association
Ceir dolenni i sefydliadau eraill sy'n ymwneud ag AB ar y tudalennau cenhedloedd ac mae gwybodaeth ar sectorau ar gael ar y tudalennau ymchwil.
I gael gwybodaeth am arwain a rheoli, ailwampio addysg gychwynnol i athrawon/tiwtoriaid/hyfforddwyr, datblygu'r gweithlu 14-19 a datblygiad proffesiynol Sgiliau ar gyfer Bywyd, pleaewch i'r tudalennau Safonau a Chymwysterau perthnasol. Mae gwybodaeth ar gael hefyd mewn perthynas â'r Strategaeth Gweithlu ar gyfer Sector AB Lloegr a rhaglenni recriwtio a chadw staff Catalyst.
I ddysgu mwy am yrfaoedd a datblygiad proffesiynol ym maes AB, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor LLUK.

