Trosolwg o Gymru

Croeso i Lifelong Learning UK yng Nghymru.

Mae LLUK yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr dysgu gydol oes a rhan-ddeiliaid eraill yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff eu barn ei chynrychioli, yng Nghymru a ledled y DU.  Mae LLUK yn ymroddedig i fodloni anghenion cyflogwyr dysgu gydol oes ar lefel ranbarthol a chenedlaethol a sicrhau bod anghenion y sector yng Nghymru'n cael eu cynnwys ym mhob agwedd o'n gwaith.

Amcangyfrifir bod gweithlu dysgu gydol oes Cymru'n cynnwys rhyw 70,000 o unigolion, gan gynnwys:

  • 4,123 staff dysgu a datblygu cymunedol
  • 9,122 staff mewn 23 o sefydliadau addysg bellach
  • 24,528 staff mewn 12 o sefydliadau addysg uwch
  • 2,122 staff llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth
  • 30,000 staff dysgu seiliedig ar waith
    (Ffynhonnell: Adroddiad Cyfnod 1 Cytundeb Sgiliau Sector LLUK).

Mae gwybodaeth ystadegol bellach am Gymru ar gael yn yr adran gwaith ymchwil yng Nghymru.

I gael gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf yng Nghymru, ewch i'n newyddion diweddaraf neu prosiectau LLUK.

I ddysgu mwy am ymgynghoriadau cyfredol sy'n berthnasol i chi, ewch i ymgynghoriadau polisi cyfredol.

I fynd i ddigwyddiad yn eich ardal chi, gweler ein digwyddiadau.

I dderbyn diweddariadau rheolaidd ar waith LLUK a datblygiadau yn y sector, tanysgrifiwch i'r e-Fwletin.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am gwaith LLUK yng Nghymru, ynghyd â sut mae LLUK yn dylanwadu polisi yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau ar gynnig neu i gysylltu â staff LLUK yng Nghymru, cysylltwch â ni.

Sylwer bod LLUK wedi cyfieithu'r holl wybodaeth sy'n berthnasol i Gymru i'r Gymraeg, lle mae hyn wedi bod yn bosibl. Os na fu hyn yn bosibl hyd yma, byddwn yn ystyried cyfieithu tudalennau ychwanegol ar gais. Cysylltwch â ni os hoffech ein hysbysu o'r tudalennau hyn.