Trosolwg o'r DU
Croeso i Lifelong Learning UK ledled y DU.
Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr dysgu gydol oes a rhan-ddeiliaid eraill ledled y DU i sicrhau bod eu barn yn cael ei chynrychioli a bod anghenion y gymuned dysgu gydol oes, ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol, yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd o'n gwaith.
Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod gweithlu dysgu gydol oes y DU yn cynnwys rhwng 1 ac 1.2 miliwn o bobl, gan gynnwys o leiaf:
- 283,094 staff ym meysydd dysgu a datblygu cymunedol
- 272,970 staff addysg bellach
- 340,000 staff addysg uwch
- 52,007 staff llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth
- 136,625 staff ym maes dysgu seiliedig ar waith
(Ffynhonnell: Adroddiad Cam 1 Cytundeb Sgiliau Sector LLUK)
Mae gwybodaeth ystadegol ychwanegol am y DU ar gael yn ein hadran gwaith ymchwil yn y DU.
I gael gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf ledled y DU, ewch i'n hadrannau newyddion diweddaraf neu prosiectau LLUK.
I fynd i ddigwyddiad yn eich ardal chi, darllenwch ein hadran digwyddiadau.
I gael y diweddaraf ar waith LLUK a datblygiadau yn y sector, tanysgrifiwch i'r e-Fwletin.
Mae gwybodaeth fanwl ar waith LLUK ar draws y pedair gwlad ar gael trwy glicio ar y ddolen briodol isod:
- Lloegr
- Gogledd Iwerddon
- Yr Alban
- Cymru
I gael mwy o wybodaeth ar y gwasanaethau a gynigiwn neu i gysylltu â staff LLUK ledled y DU, cysylltwch â ni.
Sylwer bod LLUK wedi cyfieithu'r holl wybodaeth sy'n berthnasol i Gymru i'r Gymraeg lle mae hyn wedi bod yn bosibl. Os nad yw hyn wedi bod yn bosibl hyd yma, byddwn yn ystyried cyfieithu tudalennau ychwanegol i'r Gymraeg ar gais. Cysylltwch â ni os hoffech ein hysbysu o'r tudalennau hyn.

