Cydraddoldeb ac amrywiaeth LLUK
Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn chwarae rhan weithredol mewn ystod o grwpiau dylanwadol yn y sector sy'n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Grwp Ymgynghorol Hil y Gweithlu
Tyfodd Grwp Ymgynghorol Hil y Gweithlu (WRAG) allan o'r Comisiwn dros Staff Du ym maes Addysg Bellach fel corff ymgynghorol ar gyfer yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES). Mae LLUK yn aelod o WRAG ac mae'n darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer WRAG ar ran y sector.
- Fforwm Tueddfryd Rhywiol a Hunaniaeth Ryw mewn Addysg Ôl-Ysgol
Mae'r fforwm hwn, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2007, yn dod â phartneriaid y sector at ei gilydd er mwyn cydlynu eu gwaith ar dueddfryd rhywiol a hunaniaeth ryw. Mae aelodau'n cynnwys: LLUK, y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Arweiniad, y Cyngor Dysgu a Sgiliau, Undeb y Prifysgolion a Cholegau, UNSAIN, Undeb Genedlaethol y Myfyrwyr a'r Uned Her Cydraddoldeb. LLUK yw ysgrifenyddiaeth y fforwm.
- Comisiwn Staff Anabl ym maes Dysgu Gydol Oes
Mae'r Comisiwn hwn yn ceisio ymchwilio i arferion cyfredol ym maes cyflogi pobl anabl ac adrodd ar yr arferion hyn. Fel corff annibynnol, mae'n adrodd ei ganlyniadau i'r cyhoedd, y llywodraeth, darparwyr hyfforddiant, undebau a chyflogwyr a staff dysgu gydol oes. Cyfarfu'r Comisiwn am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2007 a bydd yn parhau i gyfarfod tan fis Ionawr 2008. Mae LLUK yn aelod gweithredol o'r Comisiwn hwn.
- Rhwydwaith Arwain i Fenywod
Lansiwyd y Rhwydwaith Arwain i Fenywod, a gefnogir gan y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Arweiniad, yn Nhy'r Arglwyddi ddydd Iau, 3 Mai 2007. Mae'r rhwydwaith ar gyfer menywod sy'n meddu ar rolau arwain neu sy'n gobeithio bod yn arweinwyr ym maes addysg bellach. Y cadeirydd yw Sally Dicketts, Pennaeth Coleg Rhydychen a Cherwell Valley. Mae LLUK yn aelod o'r rhwydwaith.
I gael mwy o wybodaeth am gyfranogiad LLUK yn y grwpiau hyn, cysylltwch â'r Tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth trwy e-bost.

