Dylanwadu polisi yng Nghymru
Mae Lifelong Learning UK yn weithredol yn lobïo a dylanwadu llywodraethau Cymru, y DU ac Ewrop mewn perthynas â'r holl faterion sy'n ymwneud â datblygu'r gweithlu dysgu gydol oes.
Gallwch lunio'r adborth y mae LLUK yn ei roi i'n llywodraethau trwy gymryd rhan mewn ymgynghoriadau cyfredol am ein gweithlu. Bydd hyn yn ein galluogi ni i'ch cefnogi chi a'ch cydweithwyr trwy godi materion allweddol y sector a sicrhau y cynllunnir yn ddigonol ar gyfer y dyfodol.
I gael gwybodaeth am sut y gallwch gynorthwyo LLUK a lleisio eich barn ar hyd coridorau'r pwerau mawr, ewch i'n hadran ymgynghoriadau polisi cyfredol yng Nghymru.
I lawrlwytho ein hymatebion i ymgynghoriadau polisi ers 2005, ewch i'r adran ymatebion polisi LLUK i Gymru.
Mae rhestr o'r dogfennau polisi allweddol sy'n perthyn i Gymru ar gael i chi ei lawrlwytho neu i chi edrych arni.
I gloi, er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi'r sector, tanysgrifiwch i'r e-Newyddion Polisi.
-
Dogfennau polisi allweddol sy'n perthyn i Gymru
Gwybodaeth am ddogfennau polisi allweddol sy'n berthnasol i'r sector
-
Ymatebion polisi LLUK - Cymru
Gwybodaeth ar ymatebion LLUK i ymgynghoriadau er 2005

