Gwaith LLUK yng Nghymru
Mae LLUK yn gyfrifol am gynllunio gweithluoedd ac arwain datblygiad proffesiynol mewn gweithlu o ryw 70,000 o staff yng Nghymru ar draws y pum maes canlynol yn y sector dysgu gydol oes:
- dysgu a datblygu cymunedol, gan gynnwys dysgu oedolion yn y gymuned, datblygu cymunedol, addysg gymunedol, addysg ddatblygu, dysgu teulu, gweithio gyda rhieni a gwaith ieuenctid
- addysg bellach
- addysg uwch
- llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth
- dysgu seiliedig ar waith
Mae gwybodaeth am gyflogwyr, partneriaid a rhan-ddeiliaid allweddol ar gyfer pob rhan o'r sector yng Nghymru ar gael ar ffurf diagram i'w lawrlwytho a rhestr o rhan-ddeiliaid allweddol yng Nghymru (gan gynnwys cysylltiadau i'w gwefannau) ar gael, wedi ei chategoreiddio yn ôl maes gwaith.
Caiff sut caiff Cymru ei chynrychioli ei drafod mewn adran ar wahân, ynghyd â newyddion a gwybodaeth a archifwyd am ddatblygiadau yng Nghymru.
-
Partneriaid a rhan-ddeiliaid LLUK yng Nghymru
Mae LLUK yn gweithio gydag ystod o bartneriaid a rhan-ddeiliaid ledled Cymru er mwyn cynrychioli'r gymuned dysgu gydol oes.
-
Newyddion a gwybodaeth a archifwyd am Gymru
Y newyddion diweddaraf a blaenorol am ddatblygiadau yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru
-
Cynrychiolaeth Cymru
Caiff LLUK ei gynghori gan banel gwlad Cymru a phanel etholaeth, a chaiff y sefydliad ei reoli gan Fwrdd yn y DU

