Gwaith Ieuenctid

Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn cynrychioli cyflogwyr, rhan-ddeiliaid a staff sy'n gweithio ym maes gwaith ieuenctid.  Ei brif bwrpas yw galluogi pobl ifanc i ddatblygu'n gyflawn, gweithio gyda nhw er mwyn hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol a'u galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a'u lle mewn cymdeithas a chyrraedd eu potensial llawn. 

Mae'r datganiad hwn yn cyfeirio at ddatblygiad cyfannol pobl ifanc, gan gydnabod y gall datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol gynnwys, er enghraifft, datblygiad corfforol, gwleidyddol ac ysbrydol.

Wrth weithio gyda chynrychiolwyr y sectorau gwaith ieuenctid, mae LLUK wedi cytuno ar gyfres o werthoedd, sy'n gwahaniaethu gwaith ieuenctid o weithgareddau eraill, rhai ohonynt sy'n dal i fod yn gysylltiedig â phobl ifanc.  Mae'r gwerthoedd hyn wrth wraidd y Safonau Galwedigaethol Proffesiynol a Chenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid a fydd yn cael eu cyhoeddi gan LLUK cyn bo hir.  (Caiff gwybodaeth am ymgynghoriadau ar y llinynnau ei chynnwys yn yr adran datblygiad cymunedol a gwaith ieuenctid a archifwyd).

Cydnabyddir hefyd bod gofyn gosod y gwerthoedd hyn mewn cyd-destun lleol, cymdeithasol a gwleidyddol a dylai gweithwyr ieuenctid fod yn ymwybodol o hyn.  Mae'r gwerthoedd hyn yn dangos sut mae gwaith ieuenctid yn rhan o ddatblygiad cyfannol pobl ifanc.