Gweithio gyda Rhieni
Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn cynrychioli cyflogwyr, rhan-ddeiliaid a staff sy'n gweithio gyda rhieni. Ei brif bwrpas yw darparu a hybu ystod amrywiol o gyfleoedd dysgu a datblygu a gweithgareddau cefnogol i alluogi rhieni, darpar rieni a'r rhai sy'n magu plant i ddeall yn well eu hanghenion personol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol a chorfforol nhw ac anghenion eu plant, er mwyn cwrdd â galwadau newidiol cymdeithas ar fywyd teuluol.
Mae dau brif fath o rolau:
- y rhai sy'n canolbwyntio'n bennaf ar weithio gyda rhieni a'r rhai sy'n magu plant er mwyn rhoi addysg neu gefnogaeth i rieni e.e. cydlynwyr, hwyluswyr, bydwragedd, gweithwyr datblygu, tiwtoriaid neu arbenigwyr mewn maes penodol megis seicolegyddion, seicolegyddion plant, therapyddion teulu, cynghorwyr.
- y rhai sy'n rhyngweithio gyda rhieni ond nad honno mo'u prif rôl neu bwrpas.
Mae'r sector yn canolbwyntio'n bennaf ar y math cyntaf ac mae'n cwmpasu'r holl rieni y mae angen mwy o gefnogaeth arnynt, megis rhieni hawdd eu niweidio, rhieni sydd wedi cael eu cyfeirio neu sydd wedi cyfeirio eu hunain oherwydd problemau ymddygiad neu seicolegol eu plentyn. Caiff rhieni â phroblemau dysgu, ymddygiad neu iechyd meddwl sy'n cael problemau neu sy'n peri pryder i broffesiynolion oherwydd eu sgiliau magu plant eu cynnwys hefyd.
Mae'n bwysig nodi bod gwirfoddolwyr yn cyflawni llawer o'r gwaith ym maes magu plant er na wnaed unrhyw ddisgrifiad penodol, ar wahân o rôl gwirfoddolwr.
Mae'r rhai sy'n cael eu galw'n 'arbenigwyr' yn broffesiynolion cymwysedig sy'n gallu asesu, trin neu gefnogi teuluoedd, rhieni a phlant.
Tynnwyd y testun hwn (yn Saesneg) o "Common core" occupational and functional mapping, a gyhoeddwyd yn 2004 gan y Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol ar gyfer Dysgu a Datblygu Cymunedol (PAULO) ac sydd ar gael trwy glicio ar y ddolen.

