Datblygiad Cymunedol

Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn cynrychioli cyflogwyr, rhan-ddeiliaid a staff sy'n gweithio ym maes datblygiad cymunedol.  Ei brif bwrpas yw cyflwyno newid a chyfiawnder cymdeithasol trwy weithio gyda chymunedau er mwyn:

  • adnabod eu hanghenion, cyfleoedd, hawliau a chyfrifoldebau 
  •  cynllunio, trefnu a gweithredu 
  •  gwerthuso effeithiolrwydd ac effaith y gweithredu mewn ffyrdd sy'n ymdrin â gormes ac anghydraddoldeb.

Dechreua datblygiad cymunedol o'r syniad bod cyfoeth o wybodaeth a phrofiad tu mewn i unrhyw gymuned sy'n gallu arwain at lefelau uchel o gyfranogiad os cant eu defnyddio mewn ffyrdd creadigol ac os gellir eu llywio at weithredu ar y cyd er mwyn cyflawni nodau dymunedig y gymuned.  Mae gweithwyr datblygiad cymunedol yn gweithio ochr yn ochr â phobl mewn cymunedau, yn adeiladu perthynas â phobl a sefydliadau allweddol er mwyn hwyluso adnabod pryderon cyffredin a helpu i adeiladu grwpiau annibynnol.  Maent yn creu cyfle i ddysgu'n anffurfiol, a fydd yn helpu i wella gallu cymunedau. 

Trwy alluogi pobl i weithredu gyda'i gilydd, mae gweithwyr datblygiad cymunedol yn helpu i feithrin cynhwysiad cymdeithasol a chydraddoldeb.  Caiff anghenion addysg a hyfforddiant eu seilio ar werthoedd a phrosesau craidd sy'n cael eu nodweddu gan annibyniaeth unigolion a grwpiau, newid a datblygiad, cyfiawnder a chydraddoldeb, gweithredu ar y cyd a sgiliau dysgu cyfranogol. 

Mae'r gwerthoedd sydd wrth wraidd datblygiad cymunedol fel a ganlyn:

  • cyfiawnder cymdeithasol 
  •  hunanbenderfyniad 
  •  gweithio a dysgu gyda'n gilydd
  •  cymunedau cynaliadwy 
  •  cyfranogiad 
  •  arfer myfyrfiol.

Tynnwyd y testun hwn (yn Saesneg) o 'National Occupational Standards for Community Development Work', a gyhoeddwyd yn 2004 gan y Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol ar gyfer Dysgu a Datblygu Cymunedol (PAULO) ac sydd ar gael trwy glicio ar y ddolen neu gan y 'Skills Foresight Report' a gyhoeddwyd gan (PAULO) yn 2004 hefyd.