Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn cynrycholi cyflogwyr, rhan-ddeiliaid a staff sy'n gweithio ym maes dysgu oedolion yn y gymuned (CBAL). Ei bwrpas yw grymuso a galluogi unigolion, grwpiau a chymunedau i achub ar gyfle i ddysgu sy'n cael ei gynnig mewn ffordd sy'n ei wneud yn hygyrch ac yn hawdd i bawb fynd ato.
Gellir adnabod dysgu oedolion, sy'n digwydd yn y gymuned yn hytrach na mewn sefydliad ffurfiol, gan unrhyw un o'r nodweddion canlynol:
- agenda cyfranogiad estynedig, sy'n ceisio cyrraedd unigolion/grwpiau mewn cymunedau na fyddent / na allent fynychu addysg oedolion a leolir mewn sefydliad fel arfer
- yn ymdrin ag anghenion dysgu unigolion / grwpiau penodol mewn cymunedau trwy ddarpariaeth wedi ei haddasu
- yn dod â chyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol i'r gymuned.
Mae CBAL yn cwmpasu gwaith gydag unigolion/grwpiau yn eu cymunedau eu hunain a bydd yn cael ei wneud mewn amryw leoliad. Mae'n chwarae rôl bwysig mewn adeiladu cynhwysiad cymdeithasol a chefnogi adnewyddiad dinesig, ac mae'n cynnwys darparu sgiliau llythrennedd a rhifedd i oedolion.
O'r rhai sy'n cael eu cyflogi ym maes CBAL, mae'r rolau'n cynnwys galluogi, cefnogi a symbylu, ynghyd â thiwtora, darparu cyfarwyddyd a hwyluso dysgu.
Arferai CBAL gael ei alw'n ddysgu oedolion a chymuned (ACL) ac mae'n cael ei arolygu gan gyrff arolygu perthnasol.
Caiff CBAL ei gyflawni'n aml mewn partneriaeth rhwng sefydliadau mwy a sefydliadau gwirfoddol cymunedol llai, gan ddefnyddio cyfuniad o weithwyr cyflogedig a gwirfoddol.
Tynnwyd y testun hwn (yn Saesneg) o "Common core" occupational and functional mapping, gyhoeddwyd yn 2004 gan y Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol ar gyfer Dysgu a Datblygu Cymunedol (PAULO) ac sydd ar gael trwy glicio ar y ddolen neu gan y 'Skills Foresight Report' a gyhoeddwyd gan (PAULO) yn 2004 hefyd.

