Blaenoriaethau Strategol
Mae rôl benodol ac unigryw Lifelong Learning UK (LLUK) yn allweddol i alluogi'r system cyflenwi sgiliau wella o ran ansawdd a'i gallu i gwrdd â'r heriau a osodir ar draws y DU. Felly, mae'n bosibl crynhoi blaenoriaethau strategol LLUK ar hyn o bryd fel a ganlyn:
Amcanion allweddol
- lleihau bylchau a phrinderau mewn sgiliau
- gwella cynhyrchiant, perfformiad busnes a gwasanaeth cyhoeddus
- mwy o gyfle i hybu sgiliau a chynhyrchiant pawb yn y sector
- gwella'r cyflenwad dysgu
Nodau allweddol a mentrau
- cael a dehongli gwybodaeth gywir ac awdurdodol am y farchnad lafur sy'n berthnasol i'n cyflogwyr
- hybu gyrfaoedd yn y sector a gwella recriwtio a chadw
- cynyddu buddsoddiad mewn sgiliau
- gyrru'r gwaith o ddatblygu arweinwyr a rheolwyr y sector yn ei flaen
- cynyddu amrywiaeth y gweithlu
- datblygu a chynnal y Strategaeth Cymwysterau Sector seiliedig ar safonau
- datblygu gallu a chymhwysedd y sector
- sicrhau bod systemau a gweithdrefnau mewnol yn cefnogi perfformiad a darpariaeth effeithiol.
I gael mwy o fanylion ar sut mae LLUK yn cyflawni'r amcanion a nodau hyn, lawlwythwch Cynllun Strategol 5 Mlynedd a Cynllun Busnes 2007-08 LLUK.
Mae gwybodaeth bellach ar egwyddorion sylfaenol LLUK ar gael yn ein hadrannau bwriad a gweledigaeth, ynghyd â gwybodaeth gefndir am sut mae LLUK yn dylanwadu polisi a gweithio'n rhyngwladol.

