Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn datblygu deunyddiau cyd-destunol ar gyfer safonau cyffredinol y Ganolfan Safonau Rheoli er mwyn bodloni anghenion addysg bellach (AB), dysgu oedolion a chymuned (DOC) a dysgu seiliedig ar waith (DSW) Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.
Neges gref a ddeilliodd o ymgynghoriadau Cytundeb Sgiliau Sector LLUK yw na fydd rheolwyr a staff eraill heb gyfrifoldebau rheoli'n gallu ymateb i anghenion newidiol etholaethau unigol, heb hyfforddiant arwain a rheoli cyd-destunol.
Y llynedd, rhoddwyd y dasg o arolygu safonau arwain a rheoli i LLUK ar gyfer AB, DOC a DSW ledled y DU. Awgrymodd rownd gyntaf yr ymgynghoriadau mai'r dewis ymagwedd ar gyfer y darn hwn o waith fyddai defnyddio safonau cyffredinol y Canolfan Safonau Rheoli fel sail datblygu a chynhyrchu deunyddiau cyd-destunol a fyddai'n cefnogi a hybu'r defnydd o'r safonau ar draws y sector.
Gwahoddodd LLUK gyfranogwyr i gwblhau holiadur ymgynghori ar safonau arwain a rheoli er mwyn helpu LLUK i restru'r dogfennau a gwybodaeth hanfodol y dylid eu cynhyrchu er mwyn i'r safonau fod o ddefnydd i sefydliadau ac unigolion tu mewn i sefydliadau yn y sector ledled y DU. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 7 Rhagfyr 2007 ac mae'r data'n cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd.
Am ragor o wybodaeth ar y prosiect, cysylltwch ag Angela Joyce trwy e-bost neu drwy ffonio 020 7936 5739.

