Safonau a cymwysterau llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth
Safonau Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth
Mae Dysgu Gydol Oes y DU wedi datblygu set o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) i Lyfrgelloedd, Archifau a Rheoli Cofnodion.
Anfonwyd y safonau hyn i'w cymeradwyo at Grwp Cydlynu y DU o SSDA, fel y corff cymeradwyo, fis Tachwedd 2007. Mae'r holl fân ymholiadau wedi cael eu trafod ac rydym bellach yn disgwyl y gymeradwyaeth derfynol. UKCG yw'r corff cymeradwyo o hyd er bod SSDA wedi trosglwyddo i Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau. Cyhoeddir y safonau ar wefan LLUK cyn gynted ag y ceir cymeradwyaeth.
Cymwysterau llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth
Mae ystod o gymwysterau galwedigaethol ar gael i staff sy'n gweithio mewn llyfrgelloedd, archifau a'r gwasanaethau gwybodaeth. Mae'r rhain yn llwybrau cynnydd amgen i mewn i addysg uwch ar gyfer pobl sy'n dilyn y trywydd seiliedig ar waith er mwyn datblygu eu gyrfa.
Mae'r cymwysterau presennol ym meysydd llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth yn cynnwys y canlynol:
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell (7372)
- Gwobr Cynnydd City and Guilds mewn Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth L3 (7371)
- Prentisiaeth mewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell.
I gael gwybodaeth ar ganolfannau asesu sy'n cynnig NVQ neu Gwobr Cynnydd City and Guilds, cliciwch ar y ddolen briodol.
Am fwy o wybodaeth am y safonau a cymwysterau llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth, byddwch gystal ag e-bostio Michelle Chu.

