Prentisiaethau a graddau sylfaen ym maes Gwaith Ieuenctid
Gwybodaeth am brentisiaethau gwaith ieuenctid
Mae Lifelong Learning UK yn gyfrifol am sefydlu'r fframwaith o brentisiaethau a graddau sylfaen ym maes gwaith ieuenctid. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi tystysgrifau cwblhau yng Nghymru a Lloegr, cofrestru canolfannau a chofrestru ac ardystio prentisiaethau modern yn Yr Alban.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymhwyso mewn gwaith ieuenctid, dylech gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor LLUK ar 0207 936 5798 yn y lle cyntaf, eich cynghorydd connexions/gyrfaoedd lleol neu eich darparwr prentisiaethau gwaith ieuenctid lleol - gallai hwn fod yn goleg addysg bellach lleol neu ddarparwr preifat.
Yng Nghymru a Lloegr, gallwch gael rhestr o ddarparwyr lleol gan gyrff dyfarnu City and Guilds neu ABC ; yn Yr Alban, gallwch gael y wybodaeth hon gan Awdurdod Cymwysterau Yr Alban (SQA).
I gael gwybodaeth am y fframweithiau, gan gynnwys elfennau ar gymwysterau, lawrlwythwch y wybodaeth berthnasol ar gyfer Cymru a Lloegr ac Yr Alban trwy glicio'r dolenni priodol. (Sylwer bod y ffurflen hawlio tystysgrif ar gyfer Cymru a Lloegr ar gael hefyd ac mae ffurflenni cofrestru ac ardystio ar gyfer Yr Alban wedi eu cynnwys yn y ddolen uchod.)
Gallwch gael gwybodaeth am yrfaoedd mewn gwaith ieuenctid gan y sefydliadau canlynol hefyd:
- Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol (NYA) yn Lloegr
- Cyngor Ieuenctid Gogledd Iwerddon.
- Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghymru
- Youth Link yn Yr Alban.
Gwybodaeth am raddau sylfaen mewn gwaith ieuenctid
LLUK sy'n gyfrifol am sefydlu'r fframwaith o raddau sylfaen mewn gwaith ieuenctid. Bydd gwybodaeth am ddatblygiadau yn y maes hwn yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen hon cyn gynted ag y bydd ar gael.

