Prentisiaethau a graddau sylfaen
Lifelong Learning UK (LLUK) sy'n gyfrifol am sefydlu a rheoli'r fframwaith o brentisiaethau / prentisiaethau modern mewn Gwaith Ieuenctid ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi tystysgrifau cwblhau yng Nghymru a Lloegr, cofrestru canolfannau, a chofrestru ac ardystio prentisiaid modern yn Yr Alban. I gael rhagor o wybodaeth am prentisiaethau gwaith ieuenctid, cliciwch ar y ddolen.
Mewn perthynas â phrentisiaethau mewn gyrfaoedd dysgu gydol oes eraill, ynghyd â graddau sylfaen mewn pynciau dysgu gydol oes, mae LLUK yn rhan o waith datblygu ar hyn o bryd, yn dibynnu ar ganlyniad y Strategaeth Cymwysterau Sector, sy'n cael ei datblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr a rhan-ddeiliaid ym mhob un o bedair gwlad y DU ac a fydd yn arwain at strategaeth gyffredinol i'r DU. Caiff y gwaith hwn ei wneud yn unol â chanlyniadau Cytundeb Sgiliau Sector (SSA) LLUK.
Bydd gwybodaeth am ddatblygiadau sy'n ymwneud â phrentisiaethau a graddau sylfaen yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen hon cyn gynted ag y bydd ar gael.
-
Prentisiaethau a graddau sylfaen ym maes Gwaith Ieuenctid
Gwybodaeth am brentisiaethau a graddau sylfaen ym maes gwaith ieuenctid

