Arolwg effaith - y camau nesaf i LLUK
Y camau nesaf i LLUK wrth baratoi'r Arolwg Effaith yw sicrhau bod y galw gan ddiwydiant (fel y crynhoir gan y pum thema allweddol) yn cael ei ystyried wrth ddatblygu SSA (Cytundeb Sgiliau Sector) LLUK trwy ymgorffori canlyniadau'r Arolwg Effaith i mewn i SSA LLUK. Ewch i adran SSA ein gwefan i wybod mwy.
Gweithio gyda Chynghorau Sgiliau Sector (SSC)
Yn dilyn yr arolwg cychwynnol o SSA, mae LLUK yn ystyried gweithio ar y cyd ag SSC eraill a phartneriaid ledled y DU er mwyn sicrhau y gall y gweithlu dysgu gydol oes ymateb i anghenion diwydiant a dysgwyr unigol, nawr ac yn y dyfodol.
Gall cydweithwyr y Rhwydwaith Sgiliau ar gyfer Busnes drafod gweithgareddau sy'n perthyn i'r Arolwg Effaith ar y tudalennau Arolwg Effaith ar wefan yr SSDA neu anfon e-bost at Bryony Taylor a gofyn am fwy o wybodaeth.
Astudiaethau achos o arfer da
Mae cyfres o astudiaethau achos ar gael, sy'n dangos sut mae LLUK yn gweithio gydag SSC eraill i sicrhau y gall y gweithlu dysgu gydol oes gyflawni ar gyfer y sectorau.
Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) sy'n ddiwydiannol berthnasol i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn Lloegr
Mae'r rhaglen Catalyst yn Lloegr yn enghraifft o'n gwaith sy'n perthyn i thema Arolwg Effaith DPP. Wedi ei rheoli gan LLUK, mae'r rhaglen yn cwmpasu pedwar maes allweddol, gan gynnwys cyfnewidfa fusnes, sy'n rhoi cyfle i staff AB weithio'n agosach gyda busnesau lleol a diweddaru eu sgiliau yn y diwydiant.
Ewch i wefan Catalyst i ddarganfod sut gallwch chwarae rhan, pa un a ydych yn ddarparwr dysgu neu'n SSC.

