Arolwg Effaith
Mae'r Arolwg Effaith yn llinyn unigryw o weithgarwch sy'n cael ei gyflawni ar hyn o bryd gan LLUK fel y cyngor sgiliau sector (SSC) ar gyfer y gweithlu dysgu gydol oes.
Mae'n canolbwyntio ar arolygu cytundebau sgiliau sector (SSA) y 24 o gynghorau sgiliau sector eraill er mwyn deall eu heffaith bosibl ar gynllunio gweithlu'r dyfodol a goblygiadau ar gyfer gweithlu'r sector dysgu gydol oes yn y DU. Yn gryno, mae'r Arolwg Effaith yn asesu effaith y galw am ddysgu a sgiliau ar y gweithlu dysgu gydol oes.
Pum thema allweddol yr arolwg
Mae'r themâu a restrir isod yn cwmpasu meysydd y nodwyd yn yr SSA cyhoeddedig, a fydd yn effeithio ar y gweithlu dysgu gydol oes:
- datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar gyfer staff darlithio, dysgu, hyfforddi a chefnogi sy'n gweithio wyneb yn wyneb â dysgwyr
- cymwysterau a meysydd dysgu newydd lle mae cyflogwyr yn awgrymu bod bylchau yn y ddarpariaeth bresennol
- ffurfiau newydd o ddarparu dysgu, yn enwedig mewn fformatau hyblyg a thameidiog, a allai effeithio ar strwythur y ddarpariaeth
- datblygu gallu yn y sector dysgu gydol oes er mwyn diwallu ar gyfer mwy o alw
- datblygu gallu yn y sector dysgu gydol oes er mwyn sicrhau ansawdd y ddarpariaeth
I ddarllen mwy am y thema a chanlyniadau eraill yr adroddiad, lawrlwythwch y Crynodeb Gweithredol o'r Arolwg Effaith.
Mae cyflwyniad byrrach i'r Arolwg Effaith ar gael yn y Diweddariad Mai 2007.
Mae'r adroddiad Adolygu Effaith terfynol 'Gwerthuso, Canfyddiadau a'r Camau Nesaf' bellach ar gael i'w lwytho i lawr, drwy glicio ar y ddolen.
I gael gwybodaeth ar sut y bydd LLUK yn ymgorffori canlyniadau'r Arolwg Effaith yn ein SSA, ewch i'n camau nesaf.
-
Arolwg effaith - y camau nesaf i LLUK
Y camau nesaf i LLUK wrth baratoi ei Arolwg Effaith yw asesu effaith y galw am ddysgu a sgiliau ar y gweithlu dysgu gydol oes.

