Rhyngwladol
Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn weithredol yn yr arena ryngwladol, yn ogystal ag ar draws y DU, ac mae'n hyrwyddo gweithio'n rhyngwladol. Mae manylion rhai o'r prosiectau y mae LLUK yn rhan ohonynt ar hyn o bryd isod.
Llyfryn addysg a hyfforddiant galwedigaethol
Comisiynydd Masnach a Buddsoddiad y DU LLUK i arwain ar greu llyfryn sy'n arddangos hyfforddiant ac addysg galwedigaethol (VET) y DU i weinidogion, colegau a busnesau tramor. Cydweithiodd LLUK â phartneriaid strategol ledled y DU i gyflwyno'r cynnyrch gorffenedig.
Sgiliau byd-eang: dysgu o'r radd uchaf
Noddodd LLUK y gynhadledd undydd hon a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2006 i edrych ar addysg 'o'r radd uchaf' trwy ddod â'r sector addysg bellach (AB) at ei gilydd i rannu a datblygu partneriaethau rhyngwladol cyfredol a chwrdd â heriau economi fyd-eang. Wedi ei hariannu gan yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES), roedd y noddwyr eraill yn cynnwys y Ganolfan dros Ragoriaeth mewn Arweiniad (CEL), Cymdeithas y Colegau (AoC), Cyngor Prydain, Masnach a Buddsoddiad y DU, y Times Educational Supplement a'r Cyngor Dysgu a Sgiliau.
Consortiwm rhyngwladol
Mae LLUK yn gweithio gyda CEL ac AoC a nifer o bartneriaid eraill i ddatblygu consortiwm sy'n cynrychioli buddion marchnadoedd rhyngwladol ar gyfer y system AB dramor. Ei bwrpas yw hybu recriwtio myfyrwyr rhyngwladol a phartneriaethau byd-eang, a bod yn gerbyd ar gyfer darparu gwasanaethau rhyngwladol.
RAWABIT, Iraq
Mae'r prosiect hwn, a gefnogir gan Gyngor Prydain, yn datblygu gallu'r sector VET yn Iraq trwy raglen arwain a rheoli i ddeoniaid a phenaethiaid. Mae LLUK yn rhan o bwyllgor llywio'r prosiect, ar y cyd â'r DfES, AoC a CEL. Bu iddo groesawu cynrychiolwyr o Iraq ar ymweliad â'r DU ym mis Rhagfyr 2006.

