Sgiliau'r Byd 2011 Hyfforddi er mwyn Rhagoriaeth
Mae Sgiliau'r Byd yn gystadleuaeth sgiliau a gynhelir bob dwy flynedd lle mae pobl ifanc medrus o fwy na 50 o wledydd yn cystadlu mewn 40 o ddisgyblaethau gwahanol. Mae'r gystadleuaeth yn symud o gwmpas y byd a bydd yn Llundain ym mis Hydref 2011, dim ond 9 mis cyn Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain.
Yn y fideo sy'n hyrwyddo Sgiliau'r Byd, mae Tony Blair yn sôn bod cynnal cystadleuaeth Sgiliau'r Byd 2011 yn Llundain, dim ond blwyddyn cyn 2012, yn rhoi cyfle unigryw i'r DU greu cyswllt rhwng llwyddiannau o'r radd flaenaf ym maes sgiliau a llwyddiannau o'r radd flaenaf ym maes chwaraeon a newid canfyddiadau'r cyhoedd am addysg a hyfforddiant galwedigaethol - mewn ffordd gadarnhaol a pharhaol. (Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau, 2006).
Mae cyrraedd y targedau uchaf oll a osodwyd ar gyfer y DU yn gofyn am newid y system bresennol. Mae llawer o'r newidiadau hyn yn cynnwys diwygio cystadlaethau a chaiff y gwaith hwn ei arwain gan gynghorau sgiliau sector.
Pam fo LLUK yn gysylltiedig?
Yn hanfodol bwysig i lwyddiant cystadlaethau sgiliau yw'r bobl ifanc sy'n cael eu paratoi gan staff medrus. Mae system ragorol o reolwyr hyfforddi cenedlaethol yn cefnogi aelodau tîm y DU. Fodd bynnag, nid oes system arall ar gyfer sicrhau bod gan yr holl unigolion sy'n cystadlu fynediad at athrawon/hyfforddwyr medrus i'w helpu i gyrraedd lefel o ragoriaeth.
Hyfforddi er mwyn Rhagoriaeth
Yn haf 2007, ymchwiliodd LLUK i'r sgiliau yr oedd eu hangen ar athrawon/hyfforddwyr i gefnogi unigolion a oedd yn cystadlu. Cyhoeddir y canlyniadau yn yr adroddiad o'r enw 'Coaching for Excellence' sy'n amlygu fframwaith arfer gorau ar gyfer llwyddiant ac sy'n cynnwys cynllun gweithredu sy'n manylu ar weithrediadau gan ran-ddeiliaid sy'n hanfodol er mwn gwireddu hyn.
I gael mwy o fanylion am Sgiliau'r Byd, ewch i'w gwefan. Mae'r adroddiad 'Coaching for Excellence' ar gael i'w lawrlwytho hefyd.

