SSA Cyfnod 3
Rhestrodd Cyfnod 3 y bylchau rhwng y materion sgiliau (a nodwyd yn ystod Cyfnod 1) a'r hyfforddiant sydd ar gael (a nodwyd yn ystod Cyfnod 2), a'r nod oedd deall y bylchau rhwng y galw am sgiliau a'r cyflenwad o hyfforddiant perthnasol ar gyfer pob etholaeth ym mhob cenedl.
Rhestrwyd cyfres o atebion hefyd a ffurfiodd y rhain sail i drafodaethau pellach gyda chyflogwyr a rhan-ddeiliaid yn ystod cyfnodau dilynol. Mae'r atebion dan sylw fel a ganlyn:
- Archwilio'r opsiynau am 'broffesiynoli' pob rhan o'r gweithlu dysgu gydol oes
- Datblygu fframwaith DPP integredig a model ar gyfer y sector dysgu gydol oes, lle bo hyn yn briodol
- Datblygu fframwaith cymwysterau 'sgiliau i broffesiynolion sy'n dysgu' - canolbwyntio ar ymgysylltu â chyflogwyr, technoleg dysgu gwybodaeth, cefnogi dysgwyr/gofal cwsmer a gwaith aml-asiantaeth/mewn partneriaeth
- Datblygu cydweithredu ar draws y sector dysgu gydol oes er mwyn adnabod a lledaenu arfer da
- Cefnogi cyflogwyr dysgu gydol oes wrth iddynt symud tuag at gyfleoedd dysgu a hyfforddi a arweinir gan alw
- Datblygu llwybrau gyrfa ledled y sector
- Datblygu cronfa o wybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd i broffesiynolion ac eraill er mwyn cefnogi gweithwyr newydd a staff presennol y sector
- Rhaglenni recriwtio i ymdrin â phrinderau penodol yn y sector dysgu gydol oes
- Datblygu strategaeth arwain a rheoli ledled y DU
- Datblygu achos busnes ac adnoddau i gefnogi defnyddio technoleg yn y sector, yn enwedig mewn perthynas â thechnoleg dysgu gwybodaeth
Mae copïau o ganlyniadau Cyfnod 3 ar gael isod
Adroddiadau
Adroddiad Cyfnod 3 Lloegr
Adroddiad Cyfnod 3 Gogledd Iwerddon
Adroddiad Cyfnod 3 yr Alban
Adroddiad Cyfnod 3 Cymru
Atodiadau
Atodiad Cyfnod 3 Lloegr
Atodiad Cyfnod 3 Gogledd Iwerddon
Atodiad Cyfnod 3 yr Alban
Atodiad Cyfnod 3 Cymru

