SSA Cyfnod 4
Canolbwyntiodd Cyfnod 4 ar brofi'r farchnad ac asesu gweithrediadau posibl ar y cyd gan gyflogwyr. Trwy ymgynghoriadau ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, gofynnodd LLUK i gyflogwyr a rhan-ddeiliaid a oedd yr atebion cywir i'r problemau a'r cyfleoedd wedi cael eu nodi gan y dadansoddiad bylchau ac a oedd y rhain yn ddichonol, yn fforddiadwy ac yn debygol o gyflawni'r canlyniadau cywir.
Pwrpas Cyfnod 4 oedd cytuno gyda chyflogwyr y gweithrediadau y byddent yn eu cymryd, yn unigol neu ar y cyd, i ymdrin â'r bylchau mewn sgiliau a'r gwendidau a nodwyd, a symud tuag at 'senarios dewisedig' er mwyn gwella cystadleuaeth a chynhyrchiant ar draws y sector.
Nid oes unrhyw adroddiadau ar gyfer Cyfnod 4. Fodd bynnag, defnyddiwyd yr adborth o Gyfnod 4 i ffurfio'r cytundeb terfynol.

